Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Rhagfyr 2023
Amser:
09.31 -
10.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13588
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant, na dirprwyon. Esgusododd Peredur Owen Griffiths ei hun ar gyfer yr eitem olaf.
2.1 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei thrafodaethau gyda’r Comisiynydd Safonau.
2.2 Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ddigwyddiad lobïo yng Nghymru yr oedd yn bresennol ynddo ar 28 Tachwedd.
3.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Grwpiau Trawsbleidiol a chytunodd y dylid ei osod.
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio at y Comisiynydd Safonau a chytunodd y byddai’n ymateb ar ôl gweld ymateb y Comisiynydd, pe bai angen.
4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).